Additional support
Cymorth i'r rhai sy'n byw yng Nghymru
Mae UnLtd yn gweithio gyda Busnes Cymdeithasol Cymru yn cynnig cymorth i ddod o hyd i gyllid i helpu cychwyn a thyfu busnesau cymdeithasol.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn?Link to this section
Mae UnLtd yn rhan o gonsortiwm o ddarparwyr Busnes Cymdeithasol Cymru, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i entrepreneuriaid cymdeithasol, gan gynnwys unigolion ar y cyrion nad ydynt fel arfer wedi bod yn rhan o sefydlu busnesau cymdeithasol.
UnLtd x Social Business Wales – Welsh version
Pwy ydym ni wedi’u helpu?Link to this section
Rydym yn awyddus i ddangos rhai enghreifftiau o entrepreneuriaid cymdeithasol rydym wedi’u cefnogi’n ddiweddar drwy gyllid gan UnLtd a chymorth gan ecosystem ehangach Busnes Cymdeithasol Cymru.
Darllenwch fwy am
- Andrew Bolton, Community Murals – grymuso cymunedau lleiafrifol gan gynnwys pobl ag anableddau trwy gelf
- Jacob Henry, Fully Dedicated – Herio gwahaniaethu hiliol o fewn y system cyfiawnder troseddol
- Omo Idegun, Obehis – croesawu Affricanwyr sy’n symud i Gymru drwy siop a gweithgareddau cymunedol ehangach
- Saadia Abubaker, SaadiaSpeaks – codi hyder a dyheadau pobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol
Cymorth ychwanegolLink to this section
Gallwch dderbyn cymorth penodol, cyngor ac arweiniad, yn enwedig os nad ydych efallai’n barod eto ar gyfer Gwobr UnLtd, sy’n broses gystadleuol.
Meini prawf cymhwyseddLink to this section
I gael y cymorth hwn mae disgwyl i chi fyw yng Nghymru a chael syniad ar gyfer menter gymdeithasol. Os ydych yn gymwys, cysylltwch â: sbwenquiries@cwmpas.coop
Mae’r cynnig hwn ar gael tan 31 Mawrth 2027.
